Skip to content
← Back to browse

Cynllun Grant Technoleg Di-Wifr Uwch Uchelgais Gogledd Cymru – EOI

Uchelgais Gogledd Cymru / Ambition North Wales

Award

£20k – £2m

Total fund Up to £18.8m

Deadline

Closes 31 March 2030

Where

Wales

Apply on the funder’s site ↗

Summary

Mae’r Cynllun Grant Technoleg Di-Wifr Uwch yn cynnig cefnogaeth i sefydliadau sy’n gweithredu yng ngogledd Cymru i uwchraddio eu systemau di-wifr uwch, i wella cynhyrchiant ac effeithiolrwydd.

Who can apply

Mae'r cynllun grant ar agor i fusnesau a sefydliadau yng ngogledd Cymru sydd yn gallu dangos angen masnachol clir, neu fudd, o brosiect technoleg di-wifr uwch i gefnogi eu gweithrediadau. Mae'r cynllun yn agored i sefydliadau o bob diwydiant a sector, cyn belled eu bod yn bodloni'r meini prawf a nodir yn y canllawiau cefnogol.    Er mwyn cymhwyso, rhaid i sefydliadau:   Fod â chyfeiriad busnes a gweithrediadau yng ngogledd Cymru (Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam).   Allu mynd i mewn i Gytundeb Ariannu Grant (GFA) gyda Uchelgais Gogledd Cymru (caniateir ceisiadau ar y cyd ond bydd cytundeb grant gyda un sefydliad arweiniol).   Bod â phrosiect arfaethedig a fydd yn cael ei ddarparu a'i weithredu yng Ngogledd Cymru. Bod yn fabwysiadwyr/mantaiswyr technolegau di-wifr uwch newydd (nid cyflenwyr sy'n chwilio am gyllid i ddatblygu cynnyrch i werthu). Gael o leiaf 50% o gyllid cyfatebol ar gael (gweler Adran 1.4.2 o'r ddogfen Canllawiau a gyhoeddwyd ar wefan Uchelgais Gogledd Cymru).  Bod yn ariannol hyfyw, gyda gwybodaeth ariannol ddiweddar a thystiolaeth ar gael, gan ddangos llywodraethu priodol.   Ddangos rheolaeth ariannol a threfniadau sicrwydd, gan gynnwys y gallu i reoli arian cyhoeddus a chyflawni prosiectau cyfalaf. Nid yw costau refeniw yn gymwys.  Ymrwymo i dargedau a chanlyniadau gorfodol y cynllun - gan gynnwys creu swyddi, cynyddu GVA a gwneud gwelliannau mesuradwy i gyfradd cynhyrchu ac effeithlonrwydd.  Ymrwymo i gydymffurfio â gofynion caffael a rheoli cymorth ariannol.  Cytuno i ofynion monitro, adrodd, a gwerthuso am hyd cytundeb ariannu'r grant.  Cwrdd â'r ymrwymiadau amser a chyflawni: gweithgaredd a gyllidir wedi'i gwblhau erbyn 31 Mawrth 2030 gyda gweithrediad y buddion  wedi’i cwblhau erbyn 31 Mawrth 2033 (a gweithredu'r dechnoleg newydd am o leiaf dair blynedd ar ôl gweithredu).

Full details

Mae’r Cynllun Grant Technoleg Di-wifr Uwch wedi'i gynllunio i helpu sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat Gogledd Cymru i uwchraddio neu wella eu defnydd o systemau di-wifr uwch. Gyda gwelliannau seilwaith digidol ledled ein rhanbarth, y bwriad yw i helpu  creu cymunedau cryfach, busnesau mwy arloesol ac economi mwy gwydn.  Mae technolegau di-wifr uwch yn chwyldroi'r ffordd mae busnesau yn gweithredu drwy ddarparu cysyllted cyflymach, mwy dibynadwy a mwy diogel.  Yn y cyd-destun hwn, mae technolegau di-wifr uwch yn cynnwys yr ystod lawn o atebion di-wifr a ddefnyddir mewn gwasanaethau cyfathrebu. Er bod rhwydweithiau 5G yn faes allweddol o sylw, rydym hefyd yn cydnabod rôl bwysig Rhyngrwyd y Pethau (IoT), Wi-Fi a chyfathrebu lloeren.  Mae cyfanswm o hyd at £18.8 miliwn o gyllid cyfalaf ar gael ar hyn o bryd rhwng 2026 a 2030. Rhaid i ymgeiswyr fod wedi’u lleoli yng Ngogledd Cymru ac mae’n rhaid i brosiectau ddigwydd o fewn y rhanbarth.